Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Mae agendâu’r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i’w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn
Dydd Mawrth 11 Hydref a dydd Mercher 12 Hydref 2016
Dydd Mawrth 18 Hydref a dydd Mercher 19 Hydref 2016
Toriad: Dydd Llun 24 Hydref 2016 – Dydd Sul 30 Hydref 2016
Dydd Mawrth 1 Tachwedd a dydd Mercher 2 Tachwedd 2016
Dydd Mawrth 11 Hydref 2016
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol: Cyllid yr UE (45 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: Law yn Llaw at Iechyd Meddwl
· Datganiad gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth: Band Eang Cyflym Iawn yng Nghymru (45 munud)
· Dadl: Mynd i’r Afael â Throseddau Casineb – Cynnydd a Heriau (60 munud)
Dydd Mercher 12 Hydref 2016
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig (45 munud)
· Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
NNDM6089
Lee Waters (Llanelli)
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Huw Irranca–Davies (Ogwr)
John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod amryfal fanteision iechyd a lles gweithgaredddau corfforol.
2. Yn nodi mai dim ond 35 y cant o blant Cymru sy’n cael yr awr o weithgareddau corfforol a gaiff ei argymhell sydd ei angen arnynt bob dydd.
3. Yn cydnabod potensial Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 i godi lefelau gweithgareddau corfforol ymysg pob grŵp oedran.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu’n llawn â chymunedau i ganfod y llwybrau newydd a fyddai’n cysylltu cyrchfannau lleol ac a fyddai fwyaf tebygol o gael defnydd da.
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Dadl Fer – Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru) (30 munud)
Dydd Mawrth 18 Hydref 2016
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol: Cyllideb Ddrafft 2017-18 (30 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith: Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru (45 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig: Y Rhaglen i Ddileu TB Buchol (30 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith: Dyfodol Gwasanaethau Bysiau yng Nghymru (30 munud)
· Dadl: Adroddiad Blynyddol 2015-16 Comisiynydd y Gymraeg (60 munud)
Dydd Mercher 19 Hydref 2016
Busnes y Cynulliad
· Nodi 50 mlynedd ers trychineb Aberfan (10 munud)
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (30 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)
· Dadl Fer – Neil McEvoy (Canol De Cymru) (30 munud)
Dydd Mawrth 1 Tachwedd 2016
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: Yr Adolygiad Seneddol i Wasanaethau Iechyd a Gofal (45 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith: Canolbwyntio ar Allforion (30 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: Parodrwydd ar gyfer y Gaeaf (30 munud)
· Dadl: Adroddiad Blynyddol 2015-2016 y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (60 munud)
Dydd Mercher 2 Tachwedd 2016
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (45 munud)
· Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (120 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Dadl Fer – Hannah Blythyn (Delyn) (30 munud)